|
Mae ein
fferyllydd cymwysedig a'n staff cownter hyfforddedig ar gael unrhyw bryd
i gynnig cyngor ar afiechydon cyffredin a materion iechyd, yn ogystal
â chyngor ar sut i gymryd eich meddyginiaeth. Mae gennym ystafell
ymgynghori breifat yn y fferyllfa i sicrhau y gall ein cwsmeriaid
drafod eu pryderon gofal iechyd yn breifat.
Rydym hefyd
yn cynnig cyngor arbenigol ar:
Atal
Cenhedlu
Rydym
yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion atal cenhedlu. Mae gennym hefyd amryw
o daflenni all roi rhagor o wybodaeth i chi am eich holl anghenion atal
cenhedlu. Gall y fferyllydd roi cyngor pellach i chi am bob meddyginiaeth
atal cenhedlu a rhoi manylion clinigau cynllunio teulu lleol i chi.
Profion
Beichiogrwydd
Mae'r
fferyllfaÕn gwerthu pecynnau profion beichiogrwydd i'w defnyddio gartref.
Gallwn gynnig cyngor i chi ar sut i'w defnyddio, os bydd arnoch ei angen.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ofal iechyd yn ystod eich beichiogrwydd,
gallwn drafod hyn gyda chi.
Therapïau
Cyflenwol
Rydym
yn cadw nifer o feddyginiaethau homeopathig a llysieuol yn y fferyllfa
ac yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion aromatherapi. Gallwn roi cyngor
i chi ar sut i'w defnyddio.
Rheoli
Pwysau
Mae
gordewdra'n broblem iechyd sydd ar gynnydd yn y DU. Gallwn gynnig cyngor
proffesiynol i'ch helpu i reoli eich pwysau. Gallwn hefyd gynnig gwybodaeth
fydd yn gwella eich dealltwriaeth o'r pwnc.
Rheoli
Calon Iach
Mae
nifer o bobl yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r ffactorau risg all gyfrannu
at glefyd coronaidd y galon. Rydym yn cynnig cyngor proffesiynol ar newid
eich ffordd o fyw, eich diet, ymarfer corff a rhoi'r gorau i ysmygu, all
eich helpu i leihau'r ffactorau risg hyn. Yn ogystal, rydym yn cynnig
amrywiaeth o wasanaethau sgrinio a hunan-brofion all ddod o hyd i'ch ffactorau
risg penodol chi.
Cyngor
a Gofal Iechyd ar gyfer Teithio
Peidiwch
â gadael i salwch neu anaf annisgwyl ddifetha'r trip rydych chi
wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdano. Gallwn ateb eich cwestiynau am
unrhyw imiwneiddiadau y bydd arnoch eu hangen i fynd dramor. Gallwn hefyd
eich cynghori ar y meddyginiaethau a'r eitemau cymorth cyntaf sylfaenol
y dylech fynd gyda chi er mwyn osgoi mân anhwylderau cyffredin pan
fyddwch chi oddi cartref. Rydym yn cadw amrywiaeth eang o gynhyrchion
i amddiffyn eich croen rhag yr haul a gallwn eich helpu i ddewis y ffactorau
eli haul sydd orau i chi.
Gwefannau
buddiol:
www.nhsdirect.co.uk
Gwefan
y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw NHS direct, sy'n rhoi gwybodaeth gyffredinol
i chi am wasanaethau.
Mae gwyddoniadur
y GIG yn rhoi gwybodaeth fuddiol i chi ar gyflyrau meddygol, ac yn gadael
i chi bori yn ôl:
.
Mynegai Trefn yr Wyddor: rhestrau syml o bynciau gwyddoniadurol wedi'u
trefnu yn ôl yr wyddor.
. Mynegai i'r Pynciau: Rhestrau o bynciau wedi'u trefnu yn
ôl meysydd pwnc
. Canllaw Hunan-gymorth: cyngor ar y camau y dylech chi eu
cymryd ar gyfer amrywiaeth o symptomau cyffredin, gwybodaeth gefndirol
am fân anhwylderau ac awgrymiadau am yr hyn y dylech ei gadw yn
eich cwpwrdd ffisig.
www.askyourpharmacist.co.uk
Datblygwyd
y wefan hon gan yr NPA (Y Gymdeithas Fferyllol Genedlaethol), ac mae'n
rhoi gwybodaeth i chi am iechyd yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth
o'r cyngor a'r gefnogaeth y gall eich fferyllydd eu darparu.
www.patient.co.uk
Nod
y wefan hon yw cyfeirio pobl heb gefndir meddygol yn y DU at wybodaeth
o ansawdd dda am iechyd ac afiechydon. Gwna'r awduron hyn drwy adolygu
gwefannau sy'n ymwneud ag iechyd ac afiechydon a darparu cyswllt i nifer
o'r rhain o'r cyfeiriadur hwn ar y we. Gwefannau'r DU yw'r prif gysylltau,
gan eu bod yn teimlo bod yn well gan drigolion Prydeinig gael gwybodaeth
am iechyd o ffynonellau Prydeinig. Maent hefyd yn awgrymu rhai gwefannau
tramor dethol. Gall Patient UK hefyd fod yn adnodd buddiol i weithwyr
proffesiynol ym myd iechyd a phobl sy'n byw y tu allan i'r DU.
|